Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 23 Mehefin 2015 a dydd Mercher 24 Mehefin 2015

Dydd Mawrth 30 Mehefin 2015 a dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015

Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2015 a dydd Mercher 8 Gorffennaf 2015

 

Dydd Mawrth 23 Mehefin 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Taith Cyllideb 2015 – Buddsoddi yn y Gymru a Garem (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Adroddiad Blynyddol Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru 2015 (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf ar Borthladdoedd (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Buddsoddi mewn Cynlluniau Cyflenwi (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â risgiau sy’n ymwneud â Thanau Glaswellt yng Nghymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cymru i Addysgu Athrawon Yfory – dewisiadau ar gyfer dyfodol Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: gweithrediadau’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd i drechu tlodi (30 munud)

 

Dydd Mercher 24 Mehefin 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Dadl ar Araith y Frenhines (120 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 30 Mehefin 2015

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 – y wybodaeth ddiweddaraf (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – flwyddyn ers ei chyflwyno (30 munud)

·         Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chefnogi Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015 (15 munud)

·         Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 (15 munud)

·         Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (15 munud)

·         Dadl ar Adroddiad Gweinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd o dan adran 1 o Ddeddf Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (60 munud)

 

Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

 

Dydd Mawrth 7 Gorffennaf

 

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Band Eang Cyflym iawn (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

o   Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) (5 munud)

o   Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) (5 munud)

o   Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) (5 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (60 munud)

·         Dadl ar benderfyniad ariannol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 8 Gorffennaf

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad